Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/11/2024 i'w hateb ar 26/11/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd Cymru?

 
2
OQ61930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynyddu premiymau yswiriant gwladol cyflogwyr ar gyllidebau awdurdodau lleol?

 
3
OQ61956 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun datblygu lleol diwygiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2022-2037?

 
4
OQ61915 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofal iechyd sylfaenol yn Abertawe?

 
5
OQ61955 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y sector cyhoeddus?

 
6
OQ61953 (d) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwarchod iechyd geneuol a deintyddol trigolion Gorllewin De Cymru?

 
7
OQ61929 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant y rhaglen lleoedd lleol ar gyfer natur?

 
8
OQ61958 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau'r amseroedd aros ar gyfer ambiwlans yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?

 
9
OQ61948 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn gwella ac yn hyrwyddo iechyd a lles o fewn y gwasanaethau tân ac achub?

 
10
OQ61957 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd yn y cymunedau yng Nghymru sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd cymdeithasol?

 
11
OQ61939 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwydnwch y sector gofal cymdeithasol?

 
12
OQ61917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn dwyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gyfrif am ei darpariaeth o wasanaethau?