Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/11/2019 i'w hateb ar 26/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella deiliannau academaidd ar gyfer plant ysgol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu hawliau dynol dinasyddion Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghanol De Cymru dros y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau deintyddol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r canfyddiadau a geir yn adroddiad State of the Coalfields 2019?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau offthalmoleg a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith gymdeithasol ac economaidd newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth y DU ar fenywod Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau'r heddlu i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n effeithiol?