Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/10/2022 i'w hateb ar 26/10/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa adnoddau ariannol ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i'w helpu i ddelio â'r argyfwng costau byw?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r arweinyddiaeth etholedig newydd yng Nghyngor Sir Fynwy?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i sut y gall helpu awdurdodau lleol i ddyfeisio cynlluniau wrth gefn i liniaru costau ynni uwch?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu awdurdodau lleol drwy'r argyfwng costau byw?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru i gynnal eu gwasanaethau statudol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllido awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddiwygio polisi treth oherwydd yr argyfwng costau byw?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad cyllidol Llywodraeth y DU ar Alun a Glannau Dyfrdwy?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau ariannu ar ôl yr UE?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cynllun cyllidol tymor canolig Llywodraeth y DU ar gyllid llywodraeth leol Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog trawsnewid digidol mewn llywodraeth leol?
Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ar baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i annog perchnogaeth gyfrifol ar gŵn?
Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o achosion o ffliw adar yn Sir Ddinbych?
Sut fydd y cynllun ffermio cynaliadwy newydd o fudd i ffermwyr tenant ifanc ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am safbwynt y Llywodraeth ar rasio milgwn?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn perthynas â'i bwriad datganedig i ystyried rheoleiddio rasio milgwn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd er mwyn sicrhau bod gan ddatblygiadau tai newydd fannau gwyrdd cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am fesurau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lledaeniad ffliw adar yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol i ffermwyr Cymru ar ôl y polisi amaethyddol cyffredin?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith cynllun ffermio cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar Wastadeddau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella safonau lles anifeiliaid?
Pa ystyriaeth y mae Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar Ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am gefnogi tai fforddiadwy yng Ngogledd Cymru?