Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/09/2023 i'w hateb ar 26/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyflwr cysylltedd rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o lwyddiant datblygiad SA1 a'r gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Llywodraeth Cymru yn gwneud Aelodau o'r Senedd yn fwy atebol i'r cyhoedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Llywodraeth Cymru â Japan?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran datblygu cynlluniau peilot ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r ddeiseb ar derfynau cyflymder diofyn o 20mya a gyflwynwyd i'r Senedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi blaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y 12 mis nesaf?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y treial incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau'r manteision economaidd mwyaf posibl o ganlyniad i ffordd Blaenau'r Cymoedd A465?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith ehangach ei deddfwriaeth ei hun ar fusnesau bach yng ngogledd Cymru?