Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/06/2024 i'w hateb ar 26/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am dagfeydd ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar draws etholaeth Rhondda?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch ar y ffyrdd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â datblygu mwy o lwybrau diogel i ysgolion?
Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ddata'r heddlu a gyhoeddwyd ar wrthdrawiadau 20mya?
Pa gynlluniau hirdymor sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau rheilffordd yn Islwyn?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datblygu ffordd osgoi Cas-gwent?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddeddfwriaeth arfaethedig ynghylch gwasanaethau bysiau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru i deithio i'r ysgol yn ddiogel?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau bysiau yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael, ers iddo gael ei benodi, gyda rhanddeiliaid ar waith uned cyflenwi Burns?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gydag Opera Cenedlaethol Cymru ynghylch y pwysau cyllidebol y mae'n eu hwynebu?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon cymunedol yn Aberconwy?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu preswylwyr sy'n berchen ar eiddo sydd wedi'u rhestru gan Cadw i gynnal a datblygu eu cartrefi?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar baratoadau i Gymru gymryd cyfrifoldeb am weinyddiaeth lles?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad i hanes a threftadaeth cymoedd y de?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn hawdd eu cyrraedd i bobl â nam ar eu golwg?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad oes rhwystrau i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon elitaidd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am nifer y cynghorwyr trais rhywiol annibynnol sydd ar gael yng ngogledd Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwirfoddoli?
Comisiwn y Senedd
Sut mae'r Comisiwn yn denu ymwelwyr i'r Senedd?