Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/06/2019 i'w hateb ar 26/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun Buddsoddi i Arbed?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waredu asedau eiddo'r sector cyhoeddus?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i hwyluso'r broses o greu banc cymunedol i Gymru wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth eiddo ac asedau Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith y gyfradd dreth trafodiadau tir uwch o 6 y cant mewn cysylltiad ag eiddo masnachol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyfrifyddu ac archwilio ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau biliau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i helpu dioddefwyr trais domestig wrth ddrafftio cyllideb derfynol 2019-20?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu polisi buddsoddi ariannol Llywodraeth Cymru?
Pa fodelu economaidd sydd wedi cael ei wneud i asesu'r effaith y bydd cyhoeddi'r argyfwng hinsawdd yn ei chael ar gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am baratoadau ar gyfer cyfrifiad 2021?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi masnach ryngwladol Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau i reoli tir sy'n eiddo i cadw?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar a gynhaliwyd rhwng Llywodraeth Cymru a dirprwyaeth o Tsieina?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyrraedd y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch rôl y diwydiannau creadigol o ran hyrwyddo Cymru dramor?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo de-orllewin Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?
Beth oedd canlyniadau ymweliad diweddar y Gweinidog ag Iwerddon mewn ymgais i hyrwyddo cysylltiadau â Chymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i wella proffil byd-eang Cymru?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y defnydd o dechnoleg yn y Siambr?
A wnaiff y Comisiwn amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i roi terfyn ar sgamiau ffôn sy'n defnyddio rhifau ffôn y Cynulliad?