Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/06/2018 i'w hateb ar 26/06/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ52395 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru y mae'r heddlu cudd ('spycops') wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol?

 
2
OAQ52433 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau grantiau Glastir?

 
3
OAQ52429 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd a amlinellir yn astudiaeth achos y Sefydliad Materion Cymreig, 'Swansea Bay City Region: a renewable energy future’?

 
4
OAQ52431 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi hydrogen yng Nghymru?

 
5
OAQ52430 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru?

 
6
OAQ52405 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu nifer y derbyniadau o ganlyniad i glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint i adrannau damweiniau ac achosion brys rhwng 2016 a 2017?

 
7
OAQ52418 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gamblo cymhellol?

 
8
OAQ52436 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi de Cymru?

 
9
OAQ52434 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Yn sgil adroddiad diweddar y BBC am aflonyddu rhywiol a bwlio, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Chomisiwn y Cynulliad ynghylch diogelu staff yn y Cynulliad rhag ymddygiad amhriodol?

 
10
OAQ52391 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?

 
11
OAQ52413 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?

 
12
OAQ52419 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus gwledig yn Arfon?

 
13
OAQ52428 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithgareddau hamdden?

 
14
OAQ52427 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd ymhlith plant a phobl ifanc?

 
15
OAQ52435 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2018

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal am y cyfnod pontio a fydd yn dod yn weithredol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019?