Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/06/2018 i'w hateb ar 26/06/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i fenywod yng Nghymru y mae'r heddlu cudd ('spycops') wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am daliadau grantiau Glastir?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd a amlinellir yn astudiaeth achos y Sefydliad Materion Cymreig, 'Swansea Bay City Region: a renewable energy future’?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r economi hydrogen yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu nifer y derbyniadau o ganlyniad i glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint i adrannau damweiniau ac achosion brys rhwng 2016 a 2017?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gamblo cymhellol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi de Cymru?
Yn sgil adroddiad diweddar y BBC am aflonyddu rhywiol a bwlio, pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Chomisiwn y Cynulliad ynghylch diogelu staff yn y Cynulliad rhag ymddygiad amhriodol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus gwledig yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso gweithgareddau hamdden?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd ymhlith plant a phobl ifanc?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal am y cyfnod pontio a fydd yn dod yn weithredol ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019?