Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/05/2021 i'w hateb ar 26/05/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaelodd tai yn y farchnad leol yn Ynys Môn?
Beth yw blaenoriaethau economaidd uniongyrchol Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon?
Pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o’r digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn ddiogel yng Nghymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i fusnesau y mae cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r adferiad o COVID-19 ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd gweithio gartref?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau coronafeirws sydd mewn grym yn etholaeth Caerffili?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddaraiad ar gau'r groesfan reilffordd ym Mhencoed?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi adferiad economaidd yn etholaeth Mynwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau yn sir Benfro?