Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/04/2023 i'w hateb ar 26/04/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddenu ymwelwyr i mewn i Orllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i dyfu sgiliau pobl ifanc?
Pa gefnogaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar gyfer gardd goffa mwyngloddio cenedlaethol Cymru a Glofa Universal yn Senghennydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddo'r sector twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Ystâd y Goron ar economi Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd taliadau defnyddwyr ffyrdd yn ei chael ar yr economi?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o briodoldeb hysbysebu a noddi gamblo ym myd chwaraeon Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau'r diwydiant twristiaeth yn etholaeth Mynwy o safbwynt economaidd?
Beth yw asesiad presennol Llywodraeth Cymru o gynnydd o ran ei pholisi diwydiannol ar gyfer de-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiau gorlifiadau carthion amrwd i ddyfrffyrdd Cymru ar dwristiaeth?
Sut mae Busnes Cymru'n cefnogi'r sector cyfreithiol i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ffrydiau ariannu sydd gan Lywodraeth Cymru ar gael i gefnogi clybiau pêl-droed lleol?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Athrofaol y Faenor?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod safleoedd ysbytai yn Nwyrain De Cymru yn hygyrch i bawb?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â chamddefnyddio botox er mwyn gwneud elw?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau tynnu cwyr clust diogel o fewn y GIG?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio nyrsys?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu'r llwybr trin canser?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddigonolrwydd gwasanaethau deintyddol plant yn y GIG?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran trin cleifion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o fewn y GIG?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith carthion amrwd sy'n dod i ddyfrffyrdd Cymru ar iechyd cyhoeddus yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar gyfer merched a’u babanod yn Arfon?