Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/03/2025 i'w hateb ar 26/03/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ62503 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa ystyriaeth y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i eithrio llety lloches rhag gofynion y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?

 
2
OQ62506 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio lesddaliad yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth y DU am ddiwygio cyfunddaliad?

 
3
OQ62489 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynlluniau datblygu tai cymdeithasol ar gyfer Abertawe?

 
4
OQ62497 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lesddeiliaid nad ydynt yn gallu gwerthu eu cartrefi ac sy'n destun costau cynyddol lesddeiliaid?

 
5
OQ62501 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am sut y mae cymdeithasau tai yn dyrannu tai yn Aberconwy?

 
6
OQ62530 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro’r gwaith o gyflawni safon ansawdd tai Cymru?

 
7
OQ62515 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghylch diwygio TAN 6 i hwyluso addasu adeiladau amaethoddol i fod yn gartrefi?

 
8
OQ62521 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch y cymorth a roddir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i helpu i nodi safleoedd ôl-ddiwydiannol halogedig ger cartrefi?

 
9
OQ62512 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i newid hyd cyfnodau gwasanaethu mewn rolau llywodraeth leol?

 
10
OQ62528 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gymell datblygu tai fforddiadwy?

 
11
OQ62513 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â gwella effeithlonrwydd ariannol cynghorau?

 
12
OQ62518 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi adfywio canol trefi?

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ62523 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae gwahardd cŵn bully XL wedi'i chael ar les cŵn yng Nghymru?

 
2
OQ62527 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Sut y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall yr Ysgrifennydd Cabinet barhau i weithio tuag at y nod o gyrraedd sero net?

 
3
OQ62510 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r gwaith o greu gerddi cymunedol?

 
4
OQ62514 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi ei roi i effaith newidiadau Llywodraeth y DU i’r dreth etifeddiaeth amaethyddol ar gynaliadwyedd cymunedau cefn gwlad?

 
5
OQ62529 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd afonydd yn ne Cymru?

 
6
OQ62522 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella diogelwch tomenni glo?

 
7
OQ62508 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag achosion o daflu sbwriel yn Nwyrain De Cymru?

 
8
OQ62505 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd atebion sy'n seiliedig ar natur fel rhan o'i strategaeth llifogydd?

 
9
OQ62491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd dŵr ym Mhreseli Sir Benfro?

 
10
OQ62519 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi lliniaru llifogydd ar draws Delyn?

 
11
OQ62511 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch potensial sector cywarch Cymru?

 
12
OQ62507 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2025

Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o lefelau pysgota anghyfreithlon yng Nghymru?