Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/01/2022 i'w hateb ar 26/01/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd gan storm Christoph?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd mewn cymunedau lleol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect creu coetiroedd Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar dir y mae'n ei reoli?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wneud ffyrdd sy’n llifogi’n gyson yn fwy gwydn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod natur ar draws parth 200 milltir forol Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghaerffili?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau rheilffordd yn Islwyn?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru ceir ar stoc tai hŷn?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses bresennol o ddynodi safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
Sut y bydd y Gweinidog yn ymgorffori'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy ar draws holl bortffolios polisi Llywodraeth Cymru?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch mewn ysgolion ac o'u hamgylch?
A wnaiff y Llywodraeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddarparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol ar gyfer addysg bellach?
Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei ddarparu i ysgolion sydd â lefelau staffio is o ganlyniad i COVID-19?
Sut y bydd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn gwella cynwysoldeb i bob dysgwr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud y Gymraeg mor hygyrch â phosibl yng Nghaerdydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y pandemig ar y bwlch cyrhaeddiad?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn Abertawe?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar ddarpariaeth addysg oherwydd COVID-19 yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba gyfleusterau cymunedol sydd ar gael yn Islwyn o ganlyniad i raglen ysgolion yr 21ain ganrif?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd ariannu sydd ar gael i ysgolion gwledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?