Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/01/2021 i'w hateb ar 26/01/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ56202 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi delio â COVID-19?

 
2
OQ56173 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU?

 
3
OQ56166 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau hunanarlwyo yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig?

 
4
OQ56170 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau ar gyfer adolygiad ar ôl Brexit o hawliau gweithwyr y DU?

 
5
OQ56193 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd awdurdodau lleol mewn perthynas ag etholiadau'r Senedd yn 2021?

 
6
OQ56197 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y rhaglen cyflwyno brechiadau yn erbyn COVID-19 yn Arfon?

 
7
OQ56198 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau tlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OQ56185 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi'r holl weithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19?

 
9
OQ56200 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar y GIG yng Nghymru?

 
10
OQ56201 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gefnogi trigolion yng Ngogledd Cymru sydd wedi dioddef llifogydd yn dilyn storm Christoph?

 
11
OQ56194 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gynnydd y rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru?

 
12
OQ56195 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y pandemig i gefnogi teuluoedd yng Nghanol Caerdydd?