Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 21/01/2021 i'w hateb ar 26/01/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi delio â COVID-19?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gefnogaeth Llywodraeth y DU i feysydd awyr ledled y DU?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau hunanarlwyo yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau ar gyfer adolygiad ar ôl Brexit o hawliau gweithwyr y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd awdurdodau lleol mewn perthynas ag etholiadau'r Senedd yn 2021?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y rhaglen cyflwyno brechiadau yn erbyn COVID-19 yn Arfon?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau tlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn diogelu ac yn cefnogi'r holl weithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar y GIG yng Nghymru?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gefnogi trigolion yng Ngogledd Cymru sydd wedi dioddef llifogydd yn dilyn storm Christoph?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gynnydd y rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ystod y pandemig i gefnogi teuluoedd yng Nghanol Caerdydd?