Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/11/2025 i'w hateb ar 25/11/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i greu Cymru sy'n fwy cyfartal a theg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon i bobl yn eu harddegau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio cau ffyrdd y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y cynigion ar gyfer datblygiad Parcffordd Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros awdioleg yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r gwasanaethau diogelwch i sicrhau nad oes ymyrraeth dramor yn etholiad nesaf y Senedd?
Pa gamau mae Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu'r cyhoedd rhag pandemig yn y dyfodol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan ymgynghorwyr mewn perthynas â gweithredu a rheoli Ysbyty Athrofaol Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyferg gofal lliniarol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DG ynghylch datganoli'r system gyfiawnder i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ailddatblygu ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer mentrau cymdeithasol yn Nyffryn Clwyd?