Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/11/2020 i'w hateb ar 25/11/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OQ55901 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU?

 
2
OQ55934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw adolygiadau o hyfywedd ei buddsoddiadau presennol yn sgil effaith y pandemig COVID-19?

 
3
OQ55933 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu trethi newydd cyn diwedd y Senedd hon?

 
4
OQ55926 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu yn y gyllideb i gefnogi ardal Pontypridd yn sgil COVID-19?

 
5
OQ55928 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau?

 
6
OQ55938 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwyliau treth trafodion tir sydd ar waith yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021?

 
7
OQ55929 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi i hyrwyddo datblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru?

 
8
OQ55914 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi strategol ym Mhreseli Sir Benfro?

 
9
OQ55909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gostyngiad yng nghyfanswm y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer portffolio'r amgylchedd, ynni a materion gwledig yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2020-21?

 
10
OQ55937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sefyllfa ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe?

 
11
OQ55931 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y Trysorlys o fewn Llywodraeth y DU ynghylch manylion y gronfa ffyniant gyffredin?

 
12
OQ55935 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o werth am arian trosi'r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun yn sgil amcanestyniadau bod y gost wedi cynyddu'n sylweddol?

Y Gweinidog Addysg

1
OQ55924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd?

 
2
OQ55916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon cyflenwi?

 
3
OQ55920 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19?

 
4
OQ55908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn cefnogi disgyblion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd?

 
5
OQ55941 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cwricwlwm newydd?

 
6
OQ55940 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion yn asymptomatig er mwyn amddiffyn athrawon a disgyblion?

 
7
OQ55923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig ar weithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OQ55906 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y pandemig COVID-19 ar gyllidebau ysgolion?

 
9
OQ55930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella ysgolion yng Ngorllewin De Cymru?

 
10
OQ55922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau diogel o ran COVID-19 sy'n cael eu cymryd mewn ysgolion uwchradd?

 
11
OQ55927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod cyfyngiadau symud sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?

 
12
OQ55905 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau addysg yn Sir Benfro drwy'r pandemig COVID-19?

Comisiwn y Senedd

1
OQ55925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid?

 
2
OQ55936 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gylchrediad aer yn y Senedd ac adeiladau Tŷ Hywel?

 
3
OQ55913 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei ymgysylltiad presennol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru?

 
4
OQ55921 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd?

 
5
OQ55904 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Senedd Ieuenctid Cymru?

 
6
OQ55942 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2020

A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am unrhyw gynlluniau i newid cylch etholiadol y Senedd?