Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/10/2023 i'w hateb ar 25/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw drafferthion sy'n cael eu hachosi gan y terfyn cyflymder cyffredinol diofyn o 20mya?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o hygyrchedd ynni adnewyddadwy i fusnesau?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynnydd o ran gosod cladin sy'n gwrthsefyll tân ar adeiladau yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer gwelyau glaswellt y môr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr unedau tai cydweithredol?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ymhellach adeiladu tai cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ym mhwll glo Ffos-y-Frân ym Merthyr?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i adfer a gwerthu'r 22,000 a mwy o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru i leddfu'r argyfwng tai?
A wnaiff y Gweinidog ystyried cynigion newydd ac amgen yn unol â meini prawf yr adolygiad ffyrdd, yn dilyn y penderfyniad i atal cynnydd ar brosiect ffordd osgoi gwreiddiol Llanharan?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith y cynnydd mewn rhenti ar allu tenantiaid i dalu costau sylfaenol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Cymru tuag at leihau echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y toriad o £75 miliwn i gyllideb ei adran ar dargedau addysgol y Llywodraeth a'i thargedau o ran y Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canfyddiadau yn Adroddiad Blynyddol 2022-2023 Prif Arolygydd Estyn ?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio’r Holocost (IHRA) o wrthsemitiaeth i gael ei fabwysiadu gan y sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog plant a phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd?
Sut mae’r Llywodraeth yn cefnogi darpariaeth gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau gradd?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wreiddio egwyddorion llythrennedd cefnforol mewn addysg?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi athrawon i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol o ansawdd uchel?
Pa drafodaethau diweddar mae'r Gweinidog wedi cael gyda sefydliadau addysg uwch ynghylch eu cynaladwyedd ariannol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ar effaith cwtogi oriau addysgu ar ddysgu a chyrhaeddiad disgyblion yn Sir Ddinbych?
Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod mwy a mwy o weithwyr crefftus yn dod o golegau addysg bellach ar gyfer economi Cymru?