Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/10/2022 i'w hateb ar 25/10/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ58632 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru?

 
2
OQ58597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

A wnaiff y Prif Weinidog nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd?

 
3
OQ58629 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith rhaglen prentisiaethau gradd Llywodraeth Cymru ar niferoedd mynediad am brentisiaethau gradd?

 
4
OQ58599 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith dolydd blodau gwyllt ar fywyd gwyllt yn Sir Ddinbych?

 
5
OQ58637 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithlu gofal cymdeithasol Cymru?

 
6
OQ58607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella amseroedd aros canser y GIG?

 
7
OQ58598 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
8
OQ58620 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r angen am ddatgarboneiddio digidol?

 
9
OQ58634 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi rhieni yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gyda chost y diwrnod ysgol?

 
10
OQ58601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd?

 
11
OQ58636 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y rhwystrau mewn mynediad at ofal sylfaenol?

 
12
OQ58635 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/10/2022

Beth yw asesiad y Prif Weinidog o sut bydd newidiadau diweddar ym mholisi a phersonél Llywodraeth y DU yn effeithio ar safonau byw pobl Cymru?