Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/09/2024 i'w hateb ar 25/09/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ61563 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
2
OQ61569 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am brosiect Porth Wrecsam?

 
3
OQ61561 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector bancio i sicrhau hybiau bancio yn Nwyrain De Cymru?

 
4
OQ61559 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch mesur gwerth economaidd creu sefydliadau hyfforddiant meddygol newydd mewn gwahnaol rannau o Gymru?

 
5
OQ61548 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd ardaloedd menter?

 
6
OQ61554 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi gwyrdd mewn trefi, a chymoedd ôl-ddiwydiannol fel y Rhondda?

 
7
OQ61572 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog rhieni plant ifanc yn ôl i'r gweithlu?

 
8
OQ61577 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ddarparu prentisiaethau yng Nghymru?

 
9
OQ61544 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mhreseli Sir Benfro?

 
10
OQ61555 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa fewnbwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael i’r prosesau cynllunio o ran y cynnig arfaethedig ar gyfer datblygiad galluogrwydd radar uwch y gofod pell yn Sir Benfro?

 
11
OQ61565 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod allforion Cymru yn fwy niwtral o ran carbon?

 
12
OQ61576 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa ganllawiau mae'r Llywodraeth yn eu darparu i awdurdodau lleol ynghylch ystyried anghenion pobl ag anableddau wrth baratoi cynlluniau gofodol?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ61574 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ymuno â gweithlu'r GIG yng Ngogledd Cymru?

 
2
OQ61551 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Faint o fyrddau iechyd sydd â chynlluniau teithio ar waith ar gyfer staff a chleifion, a beth yw’r trefniadau ar gyfer monitro ac adrodd ar y cynlluniau hyn?

 
3
OQ61567 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sef 'Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'?

 
4
OQ61549 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y galw y mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn ei wynebu ers y pandemig?

 
5
OQ61571 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cleifion sydd wedi cael gofal dwys?

 
6
OQ61560 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Ar sail pa dystiolaeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth i leoli uned mamau a babanod yng Nghaer ar gyfer teuluoedd o ogledd Cymru?

 
7
OQ61575 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa fesurau neu wersi y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried ar gyfer Cymru mewn ymateb i adolygiad diweddar y Comisiwn Ansawdd Gofal yn Lloegr i'r dynladdiadau a gyflawnwyd gan Valdo Calocane yn Swydd Nottingham?

 
8
OQ61543 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
9
OQ61552 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella'r drefn o reoli atgyfeiriadau cleifion ar gyfer triniaeth y tu allan i Gymru?

 
10
OQ61556 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer trin canserau gynaecolegol yng Ngogledd Caerdydd?

 
11
OQ61547 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am amseroedd ymateb ambiwlansys?

 
12
OQ61558 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am fynediad pobl anabl at y gwasanaeth iechyd?