Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/09/2018 i'w hateb ar 25/09/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prifysgolion Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig Bae Abertawe?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog gyhoeddi amserlen benodol ar gyfer datblygu parc busnes Parc Bryn Cegin?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymdrin â phroblem taliadau rheoli ystadau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i atal twyll hunaniaeth?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlyniad a fyddai orau gan Lywodraeth Cymru yn y negodiadau ar Brexit?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff y Prif Weinidog gyfarfod â Chyngor Dinas Preston i ddeall pa wersi y gall Llywodraeth Cymru eu dysgu o'i ddull o adeiladu cyfoeth cymunedol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau canser a ddarperir gan fyrddau iechyd lleol Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffyrdd o fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau newyddenedigol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ariannu amaeth a chefn gwlad ar ôl Brexit?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog caffael lleol?