Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/06/2025 i'w hateb ar 25/06/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith dileu Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar Gymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adolygiad gwariant diweddar Llywodraeth y DU ar bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Canghellor ynglŷn â chyllid ar gyfer rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn sgil y cyhoeddiad y bydd £5 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod ganddi'r arian sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn yng Nghymru?
Sut y bydd adolygiad gwariant Cymru yn ystyried sut mae agweddau trawsbynciol ar waith Llywodraeth Cymru yn cael mwy o amlygrwydd mewn penderfyniadau cyllido?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith mentrau iaith yn Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi eu cael gyda'r Ysgrifenydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch ariannu trafnidiaeth yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar fusnesau teuluol yn sgil newidiadau Llywodraeth y DU i ryddhad eiddo busnes yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i dorri cyfraddau busnes ar gyfer siopau manwerthu llai?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo, amddiffyn a darparu ar gyfer y diwydiant amaethyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi gylchol?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i sioeau amaethyddol yng Ngogledd Cymru sy'n wynebu cansladau neu gyfyngiadau o ganlyniad i glefyd y tafod glas?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu casglu dŵr glaw?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y mesurau iechyd anifeiliaid y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar weithrediad Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a ganiateir i sbwriel o'r Alban gael ei drosglwyddo i Gymru ar ôl i'r gwaharddiad ar anfon sbwriel i safleoedd tirlenwi yn yr Alban ddod i rym ddiwedd 2025?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynhyrchu ynglŷn â gweithredu cynlluniau rheoli SoDdGA?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a mynd i'r afael â gwahanol ffynonellau microblastigau a nanoblastigau yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru i fynd i'r afael â bridio cŵn yn anghyfreithlon?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau plastig, microblastigau, a gweddillion coed mewn afonydd?
Pa gyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru a ystyriodd yr Ysgrifennydd Cabinet cyn dod i'r penderfyniad i beidio â mabwysiadu'r un drefn â Lloegr ar gyfer clefyd y tafod glas?