Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/06/2024 i'w hateb ar 25/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd incwm isel ar draws Dwyrain Casnewydd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl â thiwmor ar yr ymennydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd yng Ngogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban yng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ledled Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu ar draws ysgolion yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwaith teg yng Ngogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amodau gwaith yn y gogledd?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod datblygiadau gwynt arnofiol ar y môr o fudd i gymunedau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad y Llywodraeth i'r rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf?
Cwnsler Cyffredinol
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ôl-groniad achosion mewn llysoedd yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r cymorth sydd ar gael i drigolion Cymru ar gyfer treuliau cyfreithiol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru am dystiolaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru i ymchwiliad COVID y DU ynghylch negeseuon wedi'u dileu?
Beth mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei wneud i wella mynediad at gyngor cyfreithiol am ddim ledled Cymru, yn dilyn toriadau i Gyngor ar Bopeth?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y potensial o rannu penderfyniadau gyda Llywodraeth y DU ar gronfeydd sy’n cymryd lle rhai’r UE?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar sicrhau bod offerynnau statudol Cymru ar gael yn Gymraeg a Saesneg?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch goblygiadau Deddf Meinweoedd Dynol 2004 ar y ffordd y mae cyrff yn cael eu cadw mewn corffdai ysbytai?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i gyfeirio unrhyw un o filiau diwygio'r Senedd i'r Goruchaf Lys i sicrhau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd?
Pa gyngor cyfreithiol y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ei roi i'r Prif Weinidog cyn ei ymweliad ag India i gwrdd â Tata?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd y gofyniad am brawf adnabod pleidleiswyr yn ei chael ar yr etholiad cyffredinol sydd ar y gweill yng Nghymru?