Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/06/2019 i'w hateb ar 25/06/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ54119 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

Beth yw effaith polisi Llywodraeth Cymru o ran lleihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru?

 
2
OAQ54134 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dryloywder o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth ymdrin ag ymholiadau’r cyhoedd?

 
3
OAQ54136 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chefnogi tyddynwyr yng Nghymru?

 
4
OAQ54139 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu adeiladau rhestredig yng Nghymru?

 
5
OAQ54105 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd?

 
6
OAQ54109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?

 
7
OAQ54133 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar bob ffordd drefol yng Nghymru?

 
8
OAQ54141 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gofal iechyd gorau posibl yn cael ei ddarparu i bobl yn y Rhondda?

 
9
OAQ54138 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

Beth yw blaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer y de-orllewin am weddill tymor y Cynulliad hwn?

 
10
OAQ54088 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economi Abertawe?

 
11
OAQ54116 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau brechu yng Nghymru?

 
12
OAQ54096 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau i bobl anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanolbarth Cymru?

Cwnsler Cyffredinol

1
OAQ54098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2019

Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r achos ymgyfreitha yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am yr honiad o gamdrafod codi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au?

 
2
OAQ54099 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2019

Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru yng ngoleuni adroddiadau na chafodd dinasyddion yr UE yng Nghymru yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad diweddar i Senedd Ewrop?

 
3
OAQ54101 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/06/2019

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff deddfau mewnfudo Llywodraeth y DU ar y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithredu mewn cysylltiad â ffoaduriaid yng Nghymru?