Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/05/2022 i'w hateb ar 25/05/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ58082 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf cymhwyso ar gyfer cynllun ad-dalu'r dreth gyngor?

 
2
OQ58104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am becyn cymorth ariannol costau byw Llywodraeth Cymru?

 
3
OQ58098 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio ar y cyd i ddarparu cyllid codi'r gwastad?

 
4
OQ58107 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyllid teg i awdurdodau lleol ar draws Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
5
OQ58085 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a Chyngor Sir Ddinbych ynghylch ariannu pont Llannerch newydd rhwng Trefnant a Thremeirchion?

 
6
OQ58073 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf?

 
7
OQ58079 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu argymhellion terfynol adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili?

 
8
OQ58094 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth benderfynu ar gyllidebau'r cyrff cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu?

 
9
OQ58102 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol?

 
10
OQ58090 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch darparu cyllid cynaliadwy ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru?

 
11
OQ58076 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol?

 
12
OQ58101 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi cynlluniau ynni cymunedol wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-2023?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ58099 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol ffermydd y mae cynghorau yn berchen arnynt?

 
2
OQ58100 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles cŵn?

 
3
OQ58072 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr ym Mhreseli Sir Benfro?

 
4
OQ58092 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gyflwyno'r ffenestr ar gyfer gwneud taliadau o dan y cynllun taliadau sylfaenol yn gynnar?

 
5
OQ58105 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa gamau y mae Lywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r argyfwng costau ym myd amaeth?

 
6
OQ58106 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ymdopi â phwysau cynyddol yn dilyn pandemig COVID-19?

 
7
OQ58103 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ymgynghoriad mae'r Gweinidog wedi ei gael gyda physgotwyr ynghylch sefydlu grŵp ymgynghorol ar bysgodfeydd morol?

 
8
OQ58091 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu cymhellion i hybu cynhyrchiant amaethyddol yng Nghymru yn sgil chwyddiant cynyddol?

 
9
OQ58083 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwrtaith amaethyddol yng Nghymru?

 
10
OQ58088 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant amaethyddol yn Sir Drefaldwyn?

 
11
OQ58097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil protocol Gogledd Iwerddon Llywodraeth y DU yn ei chael ar sector bwyd-amaeth Cymru?

 
12
OQ58071 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermio organig yng Nghymru?