Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/04/2023 i'w hateb ar 25/04/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi pobl yn Arfon sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddyfodol y ddarpariaeth o brentisiaethau yn y sector adeiladu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynyddu gwerth ychwanegol gros Cymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag ad-drefnu'r gwasanaeth datblygu hunaniaeth rhywedd?
Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o gynnig diweddaraf Ofgem i ganiatáu i gwmnïau ynni ailddechrau gorfodi aelwydydd i ddefnyddio fesuryddion rhagdalu?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brinder staff o fewn y gwasanaeth iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog nodi'r rhesymeg a'r dystiolaeth a ddefnyddir i bennu lleiafswm cyfnod rhentu o 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau i gael ei ddosbarthu fel llety hunan-arlwyo annomestig?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch effaith cynllun cymorth ariannol Llywodraeth y DU ar gyn-weithwyr Allied Steel and Wire yng Nghaerdydd a'u pensiynau?
Pa gyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan Archwilio Cymru ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gadael mesurau arbennig yn 2020?
Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cydweithio rhwng yr holl randdeiliaid yn rhan annatod o'r cynllun gweithredu newydd y gytunwyd arno yn yr uwchgynhadledd llygredd afonydd ddiweddaraf?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gefnogaeth i ddigwyddiadau fel Game Fair sy'n gysylltiedig â saethu anifeiliaid byw?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hybu twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?