Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/03/2026 i'w hateb ar 25/03/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ64040 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ64059 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pan ganfyddir bod ffrwydro mewn chwarel yn torri amodau cynllunio mewn perthynas ag ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd?

 
3
OQ64061 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei phenderfyniad i dynnu cynllun datblygu lleol Wrecsam yn ôl?

 
4
OQ64051 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar sut y bydd y gronfa twf lleol yn cefnogi cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn y Rhondda?

 
5
OQ64039 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi yn Mhreseli Sir Benfro?

 
6
OQ64045 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwylliant yng ngogledd-ddwyrain Cymru?

 
7
OQ64053 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu busnesau yng Ngogledd Cymru i ehangu a pharhau i fod yn gystadleuol?

 
8
OQ64037 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ymgyrch tuag at sero net ar dwf economaidd yn Nwyrain De Cymru?

 
9
OQ64050 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau diogelu ynni i aelwydydd?

 
10
OQ64035 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith polisïau Llywodraeth Cymru ar gau busnesau'r stryd fawr?

 
11
OQ64054 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i negyddu effaith pwysau byd-eang ar brisiau ynni a thanwydd yng Nghymru?

 
12
OQ64052 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i aelwydydd a busnesau sy'n wynebu costau tanwydd sy'n cynyddu?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ64048 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau oedi wrth ryddhau o ysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
2
OQ64029 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr yn Lloegr i sicrhau bod pobl yn cael gafael ar ofal?

 
3
OQ64060 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyflenwad o frechlyn MenB i fferyllfeydd i'w gynnig yn breifat i drigolion Islwyn?

 
4
OQ64031 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?

 
5
OQ64033 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ostwng nifer yr apwyntiadau a gollir ar draws gwasanaethau'r GIG?

 
6
OQ64046 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â phoen yng Nghynllun Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru?

 
7
OQ64026 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar recriwtio i rôl arweiniol glinigol cardiaidd Cymru?

 
8
OQ64044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at ofal a chymorth iechyd i drigolion yn y Rhondda?

 
9
OQ64047 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at wasanaethau iechyd menywod?

 
10
OQ64058 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu cyfraddau bwydo ar y fron?

 
11
OQ64043 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau a hyrwyddo diogelwch cleifion yn Nwyrain De Cymru?

 
12
OQ64027 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i sicrhau diogelwch a gofal urddasol cleifion mewn adrannau brys ysbytai?