Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/03/2025 i'w hateb ar 25/03/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
2
OQ62517 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhestrau aros y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ62537 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
4
OQ62538 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi mynediad at wasanaethau bancio'r stryd fawr yng nghanol trefi ledled Delyn?

 
5
OQ62500 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddigido cofnodion iechyd cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
6
OQ62520 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mannau chwarae awyr agored i blant?

 
7
OQ62534 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch cyhoeddi gwarantau ar gyfer mynediad i dir yn nyffryn Tywi gan GreenGen Cymru?

 
8
OQ62533 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi las yng Ngogledd Cymru?

 
9
OQ62504 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Sut y bydd y £120 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i drwsio ffyrdd a phalmentydd yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol?

 
10
OQ62516 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal diwedd oes yn Nwyfor Meirionnydd?

 
11
OQ62526 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhywiaeth a chasineb at ferched mewn ysgolion er mwyn sicrhau amgylchedd cynhwysol i bob myfyriwr?

 
12
OQ62524 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i reoleiddio sefydliadau twtio anifeiliaid anwes yng Nghymru?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ62502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2025

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran y pwerau sydd ganddi i liniaru ar effaith cynigion Llywodraeth y DU i newid y cymorth sydd ar gael i bobl anabl a phobl sy'n cael budd-daliadau salwch hirdymor?

 
2
OQ62498 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'w gwneud yn bosibl ennill prentisiaeth gyfreithiol Lefel 7 yng Nghymru, er mwyn atal darpar brentisiaid y gyfraith rhag gorfod adleoli i Loegr?

 
3
OQ62499 (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2025

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Chyngor Cyfraith Cymru ynghylch cyflawni ei amcanion?