Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/02/2026 i'w hateb ar 25/02/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei pholisi ynni?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi manwerthwyr bach yn Islwyn?
Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda busnesau i helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddyfodol y sector awyrofod yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am effaith cau Gilks ar Ynys Môn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r sector lletygarwch yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch amddiffyniadau Gwastadeddau Gwent rhag prosiectau ynni solar ar raddfa fawr yn y dyfodol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r economi leol yn Rhydaman a Dyffryn Aman yn ehangach?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau lleol yn Delyn?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2026?
Sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi busnesau bach lleol yng Ngorllewin De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng ngorllewin Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am wasanaethau mamolaeth yn y gogledd?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o berfformiad cyffredinol GIG Cymru yn ystod y 12 mis diwethaf?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar berfformiad adrannau brys yng ngogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bywydau pobl sy'n dioddef o osteoporosis?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y newidiadau arfaethedig i'r contract deintyddol sydd i fod i ddod i rym ym mis Ebrill 2026?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r dull o ddarparu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu seilwaith gofal cymdeithasol yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad parhaus gwasanaeth imiwneiddio Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyfforddiant gweithwyr meddygol proffesiynol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y newidiadau sydd ar y gweill i gontract deintyddol y GIG ar gyfer Cymru, sydd i ddod i rym ym mis Ebrill 2026?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymestyn gwasanaethau iechyd yn y gymuned?