Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/02/2020 i'w hateb ar 25/02/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid fferm yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i effeithiau'r llifogydd diweddar ar ardaloedd gwarchodedig o'r amgylchedd naturiol yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu metro Bae Abertawe a chymoedd y gorllewin?
A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gymorth y mae'n yn ei roi i gymunedau y mae Storm Dennis wedi effeithio arnynt?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y gwasanaethau fasciwlar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddyn nhw gael eu had-drefnu?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o werth am arian ac effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gytundeb lefel gwasanaeth Llywodraeth Cymru gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau addysg uwch yr effeithir arnynt gan gamau i atal lledaenu coronavirus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y llifogydd diweddar ar Ferthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer gorymdeithiau Dydd Gŵyl Dewi eleni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r difrod a achoswyd gan y stormydd diweddar i gymunedau yn Islwyn?