Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/01/2022 i'w hateb ar 25/01/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i atal difrod gan lifogydd mewn cymunedau yn y gogledd yn sgil newid hinsawdd?
Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud i leihau rhestrau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i nodi 10 mlwyddiant llwybr arfordir Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau mynediad teg at gyfiawnder yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd yn afon Tawe?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch llywodraethu'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o stelcio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc yng nghymoedd de Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu sgiliau digidol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae canllawiau presennol COVID-19 yn effeithio ar ysgolion?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau sy’n wynebu staff y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?