Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/11/2026 i'w hateb ar 24/11/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Cwnsler Cyffredinol

1
OQ64984 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith datganoli cyfiawnder i Gymru, ar fynediad at gyfiawnder?

 
2
OQ64978 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r angen am gydsyniad y Senedd ar gyfer Bil Annibyniaeth Ynni Llywodraeth y DU?

 
3
OQ64994 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer Deddf Hawliau Dynol i Gymru?

 
4
OQ64971 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i Weinidogion Cymru i sicrhau tystiolaeth ar gyfer Adolygiad Covid-19 Cymru?

 
5
OQ64988 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru o ran y bwriad arfaethedig i gyflwyno hawl y gymuned i brynu?

 
6
OQ64986 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio cyfarwyddiadau Erthygl 4 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi?

 
7
OQ64987 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda'r sector cyfreithiol yng Nghymru i ddatblygu gwahanol ffyrdd i bobl gymhwyso fel gweithwyr cyfreithiol proffesiynol?

 
8
OQ64992 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y mesurau diogelu cyfreithiol sydd ar waith i sicrhau bod adnoddau addysgol LDTC+ a gyflwynir mewn lleoliadau meithrin yn briodol i'w hoedran, yn dryloyw i rieni, ac yn gyson â'u hawliau o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?

 
9
OQ64993 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch pa amddiffyniadau cyfreithiol sydd ar gael i weithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus sy'n wynebu ymchwiliadau diogelu hirfaith nad ydynt yn arwain at ganfyddiad eu bod wedi camymddwyn?

 
10
OQ64975 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar y cyngor cyfreithiol y mae wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystâd y Goron?

 
11
OQ64970 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei chydymffurfiaeth â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000?

 
12
OQ64981 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2026

Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau y gyfraith bresennol o ran mynediad at gyfiawnder yng Nghymru, sy'n ymwneud ag ymchwiliad coronaidd i farw-enedigaethau?

Prif Weinidog

1
OQ64980 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sefydlogrwydd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn penderfyniad y Prif Weithredwr i gamu o'r neilltu?

 
2
OQ65013 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu ei hasedau rhag tresmaswyr?

 
3
OQ65045 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa gamau mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i gefnogi pobl yr effeithiodd y tanau gwyllt yr haf hwn arnynt?

 
4
OQ65023 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth yn Fflint Wrecsam yn ystod oriau brig?

 
5
OQ65031 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch y budd economaidd y byddai datganoli Ystad y Goron yn ei roi i Geredigion Penfro?

 
6
OQ65030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn seilwaith Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd Ffynnon Taf?

 
7
OQ65032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog yng Ngŵyr Abertawe?

 
8
OQ64979 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ymddiswyddiad ei Brif Weithredwr?

 
9
OQ65048 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant ffermio?

 
10
OQ65012 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant dur?

 
11
OQ65044 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chostau byw?

 
12
OQ65028 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2026

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddatblygu fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid?