Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/11/2021 i'w hateb ar 24/11/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

1
OQ57234 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau gydol oes?

 
2
OQ57222 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol?

 
3
OQ57240 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r cyflog byw go iawn ledled Cymru?

 
4
OQ57217 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru'n genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches?

 
5
OQ57225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cynhwysiant ariannol yn ne-ddwyrain Cymru?

 
6
OQ57231 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cyrff cyhoeddus i ystyried egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gyflawni eu dyletswyddau?

 
7
OQ57238 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
8
OQ57218 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru tlodi plant?

 
9
OQ57250 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ei wasanaethau?

 
10
OQ57242 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn perthynas â diogelwch menywod?

 
11
OQ57243 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?

 
12
OQ57223 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chlybiau nos a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwella diogelwch menywod yn eu lleoliadau?

Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

1
OQ57245 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol?

 
2
OQ57230 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am fynediad at gyngor ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru?

 
3
OQ57249 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru?

 
4
OQ57227 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth a roddir i deuluoedd gan y system gyfiawnder yng Nghymru?

 
5
OQ57252 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsel Cyffredinol wedi'i roddi i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfrifoldeb am ddifrod yn sgil llifogydd?

 
6
OQ57232 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y gwaharddiad ar ddeunyddiau cladin llosgadwy a weithredwyd gan Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019?

 
7
OQ57247 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd ar gyfer hawliau sifil yng Nghymru?

 
8
OQ57235 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru o ran ymestyn yr etholfraint i garcharorion?

 
9
OQ57244 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo?

 
10
OQ57237 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch diweddariad i'r adolygiad o gymorth cyfreithiol troseddol?

 
11
OQ57246 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro'r rhesymeg dros sefydlu'r Comisiwn Cyfansoddiadol yn awr?

Comisiwn y Senedd

1
OQ57241 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio ystâd y Senedd ar gyfer digwyddiadau allanol?

 
2
OQ57236 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2021

Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud gydag offer TG nad yw bellach yn addas i'r diben?