Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/11/2021 i'w hateb ar 24/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau gydol oes?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella diogelwch cymunedol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r cyflog byw go iawn ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru'n genedl noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cynhwysiant ariannol yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cyrff cyhoeddus i ystyried egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gyflawni eu dyletswyddau?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i liniaru tlodi plant?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Post Brenhinol ynglŷn ag effaith COVID-19 ar ei wasanaethau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn perthynas â diogelwch menywod?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn Nwyfor Meirionnydd?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chlybiau nos a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwella diogelwch menywod yn eu lleoliadau?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am fynediad at gyngor ar gyfraith gyhoeddus yng Nghymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth a roddir i deuluoedd gan y system gyfiawnder yng Nghymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsel Cyffredinol wedi'i roddi i Lywodraeth Cymru ynghylch cyfrifoldeb am ddifrod yn sgil llifogydd?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y gwaharddiad ar ddeunyddiau cladin llosgadwy a weithredwyd gan Reoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2019?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch goblygiadau Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd ar gyfer hawliau sifil yng Nghymru?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru o ran ymestyn yr etholfraint i garcharorion?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch diweddariad i'r adolygiad o gymorth cyfreithiol troseddol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro'r rhesymeg dros sefydlu'r Comisiwn Cyfansoddiadol yn awr?
Comisiwn y Senedd
Beth yw polisi'r Comisiwn ar ddefnyddio ystâd y Senedd ar gyfer digwyddiadau allanol?
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud gydag offer TG nad yw bellach yn addas i'r diben?