Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/10/2023 i'w hateb ar 24/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gapasiti y gwasanaeth trenau rhwng y de a’r gogledd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu Metro Gogledd Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid ym Mhreseli Sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pobl yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus ?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y drefn gynllunio ar gyfer ffermydd batris ïon lithiwm mawr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwyno hunanddiffinio rhywedd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Mlaenau Gwent?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i dyfu economi canolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyflwr y gwasanaeth carchardai yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ystod amrywiol o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?