Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/09/2025 i'w hateb ar 24/09/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ63108 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a Network Rail ynghylch ail-alinio traciau i helpu i ddarparu gorsaf reilffordd Parcffordd Caerdydd?

 
2
OQ63121 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu coridor rheilffordd Caerfyrddin–Aberystwyth rhag datblygiadau a allai danseilio’r posibilrwydd o’i hailagor yn y dyfodol?

 
3
OQ63113 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddarpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol?

 
4
OQ63097 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar brosiectau ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro?

 
5
OQ63123 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant bysiau i ganfod prif achosion tagfeydd?

 
6
OQ63114 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
7
OQ63130 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Beth yw gwerthusiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y polisi terfyn cyflymder diofyn o 20mya?

 
8
OQ63106 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi awdurdodau lleol i sicrhau na fydd gwasanaethau cludiant i ysgolion yn cael eu torri?

 
9
OQ63122 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) o fudd i'r gweithlu yng Nghymru?

 
10
OQ63107 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynnydd prosiect rheilffordd coridor gogledd-orllewin Caerdydd?

 
11
OQ63116 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y rhwydwaith cefnffyrdd yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd?

 
12
OQ63127 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru ar gyfer gweddill y Senedd hon?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ63133 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ63104 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa ofynion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod ar awdurdodau lleol ynghylch darparu a chydgysylltu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

 
3
OQ63129 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr?

 
4
OQ63100 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru?

 
5
OQ63099 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau cynaliadwyedd elusennau ym Mhreseli Sir Benfro?

 
6
OQ63117 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi teuluoedd a phlant sy'n byw mewn tlodi yn y Rhondda dros fisoedd yr hydref a'r gaeaf?

 
7
OQ63124 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru o ran cydgysylltu ffoaduriaid, ymfudo a chydlyniant cymunedol?

 
8
OQ63125 (w) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet wneud datganiad am gyfraddau trais rhywiol yng Nghymru?

 
9
OQ63109 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith y mae grwpiau ffydd yn ei wneud mewn cymunedau yng Nghymru?

 
10
OQ63119 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl sy'n ceisio lloches rhag y rhyfel yn Wcráin?

 
11
OQ63110 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais domestig yn Nwyrain De Cymru?

 
12
OQ63131 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi datganiad ar rôl gwirfoddolwyr mewn cymunedau ledled Cymru?

Comisiwn y Senedd

1
OQ63128 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff y Comisiwn nodi costau Siambr newydd y Senedd a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cwblhau'r gwaith?

 
2
OQ63132 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/09/2025

A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar y defnydd o AI o ran rheoli busnes y Senedd?