Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/09/2024 i'w hateb ar 24/09/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ61568 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pa drafodaethau fydd y Prif Weinidog yn eu cael gyda Llywodraeth y DU a gweithgynhyrchwyr arfau o Gymru i sicrhau na chaiff arfau a gynhyrchwyd yng Nghymru eu defnyddio mewn troseddau rhyfel honedig?

 
2
OQ61553 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol y gaeaf hwn?

 
3
OQ61580 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y systemau cynllunio a thrwyddedau sy'n rheoleiddio'r diwydiant dofednod?

 
4
OQ61566 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pa dargedau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod ar gyfer lleihau rhestrau aros y GIG?

 
5
OQ61578 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer ar eiddo yr effeithir yn andwyol arnynt gan gynllun Arbed yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr?

 
6
OQ61582 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn seiliedig ar ymarfer gwrando'r Prif Weinidog?

 
7
OQ61570 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi mewn perthynas â Wrecsam?

 
8
OQ61579 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith pensiynwyr cymwys nad ydynt yn gwneud cais am gredyd pensiwn ar dlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru?

 
9
OQ61562 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru?

 
10
OQ61550 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r toriad i daliadau tanwydd gaeaf?

 
11
OQ61564 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar doriadau cyllidebol arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru?

 
12
OQ61557 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/09/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am berfformiad GIG Cymru?