Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/09/2019 i'w hateb ar 24/09/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynnal swyddi a datblygu economaidd yn Ogwr?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar ysgolion rhydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar Brexit?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau rheilffyrdd yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y bargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni amcanion strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau i gontractau athrawon cyflenwi drwy asiantaethau ledled Cymru?
Pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro amseroedd aros orthodontig yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefyllfa gyfansoddiadol Cymru o fewn y Deyrnas Unedig?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer gwella lefelau ffyniant yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft?