Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/06/2025 i'w hateb ar 24/06/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwariant y GIG wrth sicrhau canlyniadau gwell i gleifion?
Pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i wella isadeiledd trafnidiaeth yng Ngwynedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfyngiadau diweddar Llywodraeth Cymru ar symud da byw o Loegr i Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rygbi ar lawr gwlad?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer creu coetiroedd?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ostwng cyfraddau tlodi plant yng Ngorllewin De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gofalwyr?
Pa ddadansoddiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r manteision i Gymru mewn cysylltiad â'r adolygiad o wariant Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad ynglŷn ag amseroedd aros am ambiwlansys yn Nghanol De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad oes gollyngiadau carthion yn effeithio ar afonydd, traethau a dyfrffyrdd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ynni?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y gwasanaeth iechyd?