Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/06/2020 i'w hateb ar 24/06/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r cyfryngau lleol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn ystod y pandemig Covid-19?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r sector lletygarwch yng Nghymru yng ngoleuni Covid-19?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Blaenau'r Cymoedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Lywodraeth Cymru yn ail-agor sector twristiaeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i rieni maeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg o fis Medi ymlaen o safon uchel?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ystod y pandemig presennol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwerth-R yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i weithwyr sydd wedi colli eu swyddi yn Laura Ashley yn y Drenewydd yn dilyn y cyhoeddiad nad yw'r rheolwyr wedi llwyddo i sicrhau busnes gweithredol ar gyfer gwaith manwerthu a gweithgynhyrchu?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y canllawiau teithio 5 milltir sy'n gysylltiedig â coronafeirws yng Nghymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng ngoleuni'r pandemig coronafeirws?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau cam-drin domestig yn ystod y cyfnod argyfwng?
Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig Covid-19 ar gydraddoldeb i fenywod yn y gweithle?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ystod gweddill tymor y Senedd hon ar gyfer creu Cymru fwy cyfartal?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector elusennol a gwirfoddol yn ystod y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni blaenoriaethau diogelwch cymunedol yng Nghymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad ynglyn ag ymateb y sector gwirfoddol i'r pandemic presennol?
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid mewn sŵau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Cymorth i Ffermwyr Godro Cymru sydd wedi agor yn ddiweddar ar gyfer ceisiadau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith adfer o ran llifogydd ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil Amaeth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr yn ystod y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i adfer ac atal llifogydd yn Rhondda Cynon Taf?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd morlynnoedd llanw o ran cyflawni amcanion ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo lles anifeiliaid yn ystod y pandemig Covid-19?
A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad o sut mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bobl sydd mewn tlodi tanwydd?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol am y rôl y gallant ei chwarae i fynd i'r afael â thlodi plant ar ôl yr argyfwng Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio rheoliadau cynllunio er mwyn cynorthwyo busnesau i ddod allan o'r cyfnod cloi presennol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae digartrefedd wedi'i leihau ers dechrau'r pandemig Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berthynas Llywodraeth Cymru ag awdurdodau lleol yn ystod y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau ychwanegol a fydd ar gael i awdurdodau lleol i ymdrin â'r pwysau presennol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer canol trefi yn Sir y Fflint ar ôl Covid-19?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol ychwanegol sy'n wynebu llywodraeth leol oherwydd y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth a roddir i gynghorau sir, tref a chymuned yn ystod y pandemig Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni Cam 2 y Cynllun Digartrefedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi cynllunio yng Nghymru?