Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/05/2023 i'w hateb ar 24/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu swyddi yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o lwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau anweithgarwch economaidd?
Sut mae'r Gweinidog yn cefnogi busnesau twristiaeth yng nghanolbarth Cymru?
Pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar strategaeth lled-ddargludyddion arfaethedig y DU?
Pa gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella cysylltiadau band eang i fusnesau yng Nghanol De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a micro yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer arloesi?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y busnesau hunanddarpar sydd wedi cau, neu sydd mewn perygl o gau, oherwydd y trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am werth y sector cynhyrchu bwyd i economi Cymru?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y cyflymydd cenedl ddata?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar lywodraethiant mewn perthynas â phorthladdoedd rhydd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod meddygfeydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithredu i ganllawiau'r gwasanaeth meddygol cyffredinol drwy gynnig apwyntiad y tro cyntaf, bob tro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa effaith y mae hawl GIG Lloegr i atgyfeiriad preifat yn ei chael ar lywodraethu clinigol yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau lefelau staff nyrsio digonol ar draws Gorllewin De Cymru?
Pa effaith ganlyniadol y mae cau wardiau ysbytai o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chael ar ddarpariaeth iechyd mewn rhannau eraill o'r ardal honno?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau strôc y GIG yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl?
Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o argaeledd gwasanaethau deintyddol yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer asesu anhwylderau niwroddatblygiadol?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i greu dyfodol cynaliadwy i ddeintyddiaeth y GIG yn Nwyrain De Cymru?