Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/05/2022 i'w hateb ar 24/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth i gefnogi hawliau plant anabl yng Ngorllewin De Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i roi mwy o reolaeth i bobl leol dros benderfyniadau cynllunio sydd â goblygiadau sylweddol o ran iechyd a'r amgylchedd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl yng Ngogledd Cymru?
Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymrd â hwy i helpu bragwyr bach, annibynnol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod buddiannau cymunedol yn y broses gynllunio?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith ariannu mwy o Aelodau o'r Senedd ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arferion gweithio hyblyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch bwyd yng Nghymru yn sgil risgiau i drefniadau masnachu gyda'r UE?