Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/04/2024 i'w hateb ar 24/04/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth i blant a phobl ifanc?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y newidiadau arfaethedig i amserlen rheilffordd Calon Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer gwella trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
Beth yw asesiad yr Ysgrifennydd Cabinet o'r cynnydd o ran gweithredu polisïau teithio llesol yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau yng nghymunedau'r cymoedd?
Sut mae'r Llywodraeth yn gwella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?
Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng nghefn gwlad Canolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gymunedau gwledig fel rhan o'r bil bysiau sydd ar ddod?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu Metro De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet ddatganiad am sut mae trigolion Rhondda wedi elwa o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau bysiau?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod targedau ar gyfer lleihau tlodi plant?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i liniaru effaith tlodi plant yng Nghwm Cynon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddyfodol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y posibilrwydd o gau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru?
Pa gamau brys mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau nad oes rhaid i Amgueddfa Cymru gau unrhyw un o'i safleoedd?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ynghylch sicrhau mynediad cyfartal i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer Amgueddfa'r Gogledd?
Beth yw gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo dinasyddion Cymru sy'n cefnogi aelodau o'r teulu sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Gaza?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r diwydiant rasio ceffylau yng Nghymru?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gefnogi Aelodau a staff i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn y gweithle?