Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/03/2026 i'w hateb ar 24/03/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64036 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar sut y bydd argymhellion adolygiad Fingleton o reoleiddio datblygu niwclear yn cael eu hystyried a'u bwrw ymlaen yng Nghymru?

 
2
OQ64025 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl addysg uwch wrth dyfu economi Cymru?

 
3
OQ64064 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ba mor dda mae'r setliad datganoli presennol yn gweithio i Gymru?

 
4
OQ64065 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd rhaglen cerbydau arfog Ajax i sicrhau dyfodol swyddi hyfedr yn Islwyn?

 
5
OQ64038 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gael gwared ar wasanaethau o ysbytai yng ngorllewin Cymru?

 
6
OQ64028 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud gyda Llywodraeth y DU o ran sicrhau cyfiawnder i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire sydd dal i wynebu anghyfiawnder pensiwn?

 
7
OQ64041 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Sut mae'r Llywodraeth yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru?

 
8
OQ64034 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o nifer y marwolaethau diangen sy'n gysylltiedig ag amseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys?

 
9
OQ64063 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y pwysau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol?

 
10
OQ64066 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn cael eu trin yn gyfartal ac yn deg?

 
11
OQ64032 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella iechyd a llesiant ar draws Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
12
OQ64030 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/03/2026

Sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gwella mynediad at wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn?