Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/03/2021 i'w hateb ar 24/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau mewn cartrefi gofal o ganlyniad i COVID-19 yng Nghymru?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at driniaethau canser yn dilyn pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd i bobl yn y Rhondda?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y ddarpariaeth o ofal sylfaenol yn ardal Llanharan?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau heintio COVID-19 yn Nwyrain De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro amrywiolion newydd o feirws SARS-CoV-2?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio nyrsys yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad cyflogau'r GIG?
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi llesiant ac iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl sy'n dioddef o orbryder yn dilyn y cyfyngiadau symud?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynigion i gryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw polisïau Llywodraeth Cymru i adeiladu partneriaethau ar gyfer iechyd meddwl da yng Nghymru?
Pa wasanaethau sydd ar waith i gefnogi pobl sy'n dioddef o byliau o banig a gorbryder?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sector y celfyddydau yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a gynigir i bobl yn Sir Benfro i ddiogelu a gwella eu hiechyd meddwl yn ystod y pandemig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i anghenion iechyd meddwl pobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu llesiant meddwl pobl Ynys Môn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg am bwysigrwydd hybu'r Gymraeg mewn perthynas â gwaith llywodraethwyr ysgol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu ymyriadau byr i gefnogi pobl sy'n dioddef o orbryder ac iselder?