Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/02/2026 i'w hateb ar 24/02/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63881 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gydnabod personél milwrol a dioddefwyr rhyfel o Gymru?

 
2
OQ63878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau a fydd unrhyw ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru heb eu cyflawni erbyn diwedd y Senedd hon?

 
3
OQ63873 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl?

 
4
OQ63855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y preswylwyr sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

 
5
OQ63879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau uniondeb etholiad y Senedd?

 
6
OQ63893 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bwyd wedi'i brosesu'n helaeth ar y GIG?

 
7
OQ63888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?

 
8
OQ63884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gyllid buddsoddi mewn rheilffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?

 
9
OQ63863 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gyda'u hardrethi busnes?

 
10
OQ63866 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella glendid trefol yn Nyffryn Clwyd?

 
11
OQ63870 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â hiliaeth?

 
12
OQ63874 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynghylch yr ymgynghoriad ar y cynllun taliad defnyddwyr ffyrdd?