Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/02/2021 i'w hateb ar 24/02/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi parafeddygon a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain yn ystod y pandemig COVID-19 i osgoi’r perygl o unigrwydd ac unigedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthopedig yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y rhaglen frechu yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio ymwelwyr iechyd yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno profion asymptomatig yn y gweithle yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu’r brechlyn COVID-19 i grwpiau blaenoriaeth 6 i 9 yng Nghymru fel y nododd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru o ran strategaeth adfer ar gyfer GIG Cymru ar ôl argyfwng y coronafeirws?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy’n dioddef o COVID hir?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a roddwyd i gartrefi gofal i ganiatáu ymweliadau diogel yn ystod pandemig y coronafeirws?
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth iechyd meddwl?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran a fydd modd bodloni’r galw am safleoedd gwersylla a safleoedd carafanau domestig â chyfleusterau sydd wedi’u diogelu rhag COVID yng Nghymru yng ngwanwyn/haf 2021?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo iechyd meddwl gweithlu’r GIG a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Cymraeg 2050?
Pa waith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, cynghorau ac elusennau i gefnogi'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i geisio atal cynnydd mewn hunanladdiadau o ganlyniad i bandemig COVID-19?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl a lles gweithwyr y sector cyhoeddus yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau twristiaeth Ynys Mon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yng Nghanol De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y Rhondda?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chomisiynydd Plant Cymru ynghylch effaith y cyfyngiadau symud diweddaraf ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo'r Gymraeg yn Islwyn drwy dechnoleg iaith ar-lein?