Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 17/01/2024 i'w hateb ar 24/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cymorth ariannol i gynghorau i hwyluso'r gwaith o gyflawni prosiectau adnewyddadwy yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru ynghylch diwygio ardrethi busnes?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus yn Nwyrain Casnewydd?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddeddfu i roi mwy o lais i aelodau o'r cyhoedd ar gynnydd yn y dreth gyngor yn eu hardal awdurdod lleol?
Sut mae'r Gweinidog yn defnyddio data amser real wrth fonitro cyllidebau Llywodraeth Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn monitro effaith polisïau yn y portffolio Cyllid a Llywodraeth Leol ar fusnesau bach?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cyfrifoldeb cyllidol mewn llywodraeth leol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu ehangu Dechrau'n Deg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddyrannu'r grant cynnal refeniw ar gyfer awdurdodau lleol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol cynghorau tref a chymuned?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynghorau i gefnogi ailgylchu?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Chyngor Gwynedd am weithrediad y darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ynglŷn a rhannu swyddi?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i newydd-ddyfodiaid ifanc i'r diwydiant amaethyddol?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo cynnyrch lleol Cymreig?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch cynnal adolygiadau o fridio cŵn anghyfreithlon yn eu hardaloedd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i ffermwyr sy'n dioddef iechyd meddwl gwael?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwiwerod coch rhag brech y wiwerod?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pysgodfeydd a dyframaethu?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant amaethyddol ym Mhreseli Sir Benfro?
Sut y mae'r Gweinidog yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth i amddiffyn cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd?
Pa drafodaethau mewnol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â chynllun lles anifeiliaid i Gymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran sefydlu system fwyd gynaliadwy?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cynllun ffermio cynaliadwy i annog ffermwyr i dyfu rhagor o lysiau?