Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/01/2023 i'w hateb ar 24/01/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba mor hygyrch yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl â nam ar eu golwg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n dioddef o ddibyniaeth ar gyffuriau yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau fasgiwlar i gleifion yn Arfon?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw yng Ngorllewin Casnewydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y berthynas waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella isadeiledd ffyrdd yng nghanolbarth Cymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn lliniaru'r argyfwng costau byw i bobl yn Nwyrain De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu anghydraddoldebau iechyd i fenywod?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at ddatganoli pwerau ar gyfer system gyfiawnder i Gymru?