Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 16/11/2022 i'w hateb ar 23/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i leihau'r defnydd dyddiol o ddŵr mewn cartrefi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o welliannau cyffyrdd ar yr A483?
Beth mae'r Gweinidog wedi'i wneud i leihau ôl-troed carbon ei hadran yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyfleoedd ddaw yn sgil datblygu ynni gwynt ar y môr arnofiol yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu ansawdd ac argaeledd teithiau trenau yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru i wella amgylcheddau trefol mewnol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o faint o stoc tai gwag sydd ar dir sy'n eiddo i awdurdodau cyhoeddus?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r potensial o ddefnyddio pŵer y môr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o rôl bosib ffermio cefnforol adfywiol yn y broses o frwydro yn erbyn newid hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw costau trafnidiaeth yn effeithio ar bresenoldeb dysgwyr yn yr ysgol?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr yng Nghanol De Cymru y mae eu mynediad at addysg wedi ei effeithio gan yr argyfwng costau byw?
Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod addysg yn cael ei ddarparu mewn fformat wyneb yn wyneb?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dysgwyr ôl-16 oed yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg?
Sut fydd cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn mynd i'r afael ag effaith amddifadedd ar addysg?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ynglŷn â datblygu hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol?
Sut fydd cwricwlwm newydd Cymru yn helpu pobl ifanc i adnabod niwed ar-lein ac amddiffyn eu hunain rhagddo?
Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i sicrhau gweithgareddau hamdden drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobol ifanc?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd mewn denu pobl i hyfforddi fel athrawon i ddysgu mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau absenoldeb ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau ym maes addysgu gartref ar bobl yn Sir Ddinbych?
Pa gynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i hyfforddi mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg yng Nghymru?