Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 18/11/2021 i'w hateb ar 23/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Aberconwy?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl technoleg protein amgen o ran sicrhau sero net?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl y gaeaf hwn?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn cyhoeddi adroddiad Holden?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei roi i gwmniau yn Sir Benfro i'w helpu i leihau eu hallyriadau carbon?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni'r ymrwymiadau diwygio addysg yn y Rhaglen Lywodraethu?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?